SL(6)441 – Gorchymyn Cynlluniau Pensiwn a Chynllun Digolledu’r Diffoddwyr Tân (Diwygio) (Cymru) 2024

Cefndir a diben

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Atodlen 2 i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân 1992 (sy’n nodi Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru)) ac Atodlen 1 i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007 (sy’n nodi Cynllun Pensiwn Newydd y Diffoddwyr Tân (Cymru)) i estyn y cyfnod y mae gan bersonau a gyflogid yng Nghymru fel diffoddwyr tân wrth gefn fynediad i gynllun pensiwn ynddo.

Mae’r Gorchymyn hwn hefyd yn diwygio Gorchymyn Cynllun Digolledu’r Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007 i ganiatáu gwneud dyfarndaliadau mewn perthynas ag anaf a gafwyd tra bo person yn cyflawni dyletswyddau penodol heblaw ymladd tân o dan gyflogaeth eilaidd dros dro gyda’r un awdurdod tân ac achub. Yn yr achosion hynny, bydd unrhyw anaf yn cael ei drin fel pe bai yn anaf a gafwyd o dan brif gyflogaeth y person, ac o ganlyniad bydd dyfarndaliad yn seiliedig ar wasanaeth a thâl o dan y brif gyflogaeth honno. Mae’r diwygiadau hefyd yn darparu, pan fo person yn cyflawni dyletswyddau o dan gyflogaeth eilaidd wrth gefn gyda’r un awdurdod tân ac achub, y caiff unrhyw anaf ei drin fel pe bai’n anaf a gafwyd o dan gyflogaeth reolaidd y person. Ystyr hwn yw y bydd dyfarndaliad yn seiliedig ar wasanaeth a thâl y person o dan y contract gwasanaeth rheolaidd hwnnw.

Gweithdrefn

Negyddol.

Gwnaed y Gorchymyn hwn gan Weinidogion Cymru cyn iddo gael ei osod gerbron y Senedd. Caiff y Senedd ddirymu'r Gorchymyn o fewn 40 diwrnod (ac eithrio unrhyw ddyddiau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) mewn cyfnod o doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y’i gosodwyd gerbron y Senedd.

Materion technegol: craffu

Nodwyd y 6 phwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn cysylltiad â’r offeryn hwn:

1.    Rheol Sefydlog 21.2(vii) – ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr testun Cymraeg a thestun Saesneg yr offeryn neu’r drafft

Yn erthygl 3(1) o’r Gorchymyn, mae gwahaniaeth rhwng y testun Cymraeg a’r testun Saesneg o ran y cyfeiriad at bennawd Atodlen 2 i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân 1992.

Mae'r testun Saesneg yn cyfeirio at “the Firefighters’ Pension Scheme”, ac mae’r testun Cymraeg yn cyfeirio at “Cynllun Pensiwn y Dynion Tân 1992 (pwyslais wedi'i ychwanegu).

2.    Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio'r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

Yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn, ym mharagraff 1(2)(a), disgrifir y diffiniadau newydd fel rhai sydd wedi'u mewnosod “yn y lle priodol” yn rheol 2(1) o Gynllun Pensiwn Newydd y Diffoddwyr Tân (Cymru). Fodd bynnag, yn y testun Cymraeg, nid yw'r diffiniadau wedi'u rhestru yn nhrefn yr wyddor. Dylai’r ail ddiffiniad “cyfnod cyflogaeth arbennig” ymddangos cyn y diffiniad cyntaf “cyfnod cyfyngedig estynedig”.

Gallai hyn ddrysu’r cyfarwyddyd i fewnosod y diffiniadau yn y lle priodol yn rheol 2(1) o Gynllun Pensiwn Newydd y Diffoddwyr Tân (Cymru) yn y testun Cymraeg.

3.    Rheol Sefydlog 21.2(vii) – ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr testun Cymraeg a thestun Saesneg yr offeryn neu’r drafft

Yn Atodlen 1 i’r Gorchymyn, ym mharagraff 6(3), yn y rheol 5C(7) newydd, mae gwahaniaeth rhwng y testun Cymraeg a’r testun Saesneg.

Yn y testun Saesneg, dywed “Where the authority do not hold records of that person’s pay for that period…” (pwyslais wedi'i ychwanegu). Fodd bynnag, yn y testun Cymraeg cyfatebol, cyfieithir y geiriau hynny fel “Pan oes gan yr awdurdod gofnodion o dâl y person hwnnw am y cyfnod hwnnw…” (pwyslais wedi'i ychwanegu). Mae hyn yn golygu bod gan destun y ddwy iaith ystyr gyferbyniol ac maent yn gwrth-ddweud ei gilydd.

4.    Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio'r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

Yn Atodlen 1 i’r Gorchymyn, ym mharagraff 6(3), yn y rheol 5C(8) newydd, cyfeirir at “diffoddwr tân cymwys rheolaidd amser-cyflawn” (pwyslais wedi'i ychwanegu). Dyma’r unig achlysur y defnyddir “diffoddwr tân cymwys rheolaidd” (pwyslais wedi'i ychwanegu), yn hytrach na'r term diffiniedig “diffoddwr tân rheolaidd” (fel y'i diffinnir yng Nghynllun Pensiwn Newydd y Diffoddwyr Tân (Cymru)).

Mae angen rhagor o wybodaeth ynghylch a yw'r term anniffiniedig hwn yn cael ei ddefnyddio'n fwriadol ac, os felly, pam nad yw'r term wedi'i ddiffinio at ddibenion Cynllun Pensiwn Newydd y Diffoddwyr Tân (Cymru).

5.    Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio'r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

Yn Atodlen 1 i’r Gorchymyn, ym mharagraff 7(3), mae’r geiriau agoriadol yn datgan bod y diwygiadau dilynol sy’n dwyn y rhif fel paragraffau (a) i (c) yn cael eu gwneud. “Yn rheol 16…” (o Ran 12 o Gynllun Pensiwn Newydd y Diffoddwyr Tân (Cymru)). Fodd bynnag, ym mharagraff 7(4), gwneir diwygiad pellach i baragraff arall yn yr un rheol ond heb nodi bod y paragraff sydd i’w ddiwygio i’w gael hefyd yn rheol 16 o Ran 12.

Felly, mae strwythur y paragraff yn anghywir a dylai paragraff 7(4) fod wedi'i rifo fel paragraff (d) o baragraff 7(3) yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn. Byddai angen addasu rhif yr is-baragraffau dilynol ym mharagraff 7 hefyd i ddilyn yr ailrifo hwn.

Mae gwall tebyg hefyd yn digwydd ym mharagraff 7(6) a (7) o Atodlen 1 i’r Gorchymyn, lle dylai is-baragraff (7) fod wedi’i rifo fel paragraff 7(6)(d), gyda’r is-baragraffau dilynol wedi'u hailrifo i hwyluso'r cywiriad hwn.

6.    Rheol Sefydlog 21.2(vii) – ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr testun Cymraeg a thestun Saesneg yr offeryn neu’r drafft.

Yn Atodlen 2 i’r Gorchymyn, ym mhennawd paragraff 1, mae gwahaniaeth rhwng y testun Cymraeg a’r testun Saesneg. Mae'r testun Saesneg yn cyfeirio at "Part 1" ond yn y testun Cymraeg y cyfieithiad yw “Atodlen 1”.

Rhinweddau: craffu    

Nodwyd y ddau bwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn:

7.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Mae'r enw a ddefnyddir i gyfeirio at y cynllun pensiwn a nodir yn Atodlen 2 i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân 1992 yn anghyson yn y testunau Cymraeg a Saesneg.

Enw cyfreithiol cywir y cynllun yw Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru), fel y’i hailenwyd gan Orchymyn Deddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (Cynllun Pensiwn y Dynion Tân) (Cymru) 2004.

Fodd bynnag, i ddefnyddio enghreifftiau yn y testun Saesneg, yn Nodyn Esboniadol y Gorchymyn cyfeirir at Gynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) fel “the Firefighters’ Pension Scheme (Wales) 1992”. Tra yn nhroednodyn (1) ar dudalen 4 o'r Gorchymyn, cyfeirir at y Cynllun fel “the 1992 Firefighters’ Pension Scheme”.

Mae’r Gorchymyn hwn yn gymhleth ac yn dechnegol ei natur ac ystyrir bod defnyddio enwau gwahanol i gyfeirio at yr un cynllun pensiwn yn debygol o achosi dryswch i’r darllenydd.

8.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Mae'r Memorandwm Esboniadol yn nodi fel a ganlyn, ym mharagraff 2.1:

“Bydd y Pwyllgor yn dymuno nodi na chafodd Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân (Cymru) 1992 na Gorchymyn Cynllun Digolledu'r Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007 eu creu yn ddwyieithog, a dyna'r rheswm dros ffurf Gorchmynion 2024 sy'n diwygio'r gorchmynion cynharach hynny.  Mae Gweinidogion Cymru wedi penderfynu na fyddai'n gymesur dirymu Gorchymyn 1992 na Gorchymyn 2007 a'u hail-wneud yn ddwyieithog.”

Fel eglurhad (ar wahân i'r pwynt sylweddol a eglurir yn y Memorandwm Esboniadol), dylid nodi y dylai’r cyfeiriad uchod at “Firefighters’ Pension (Wales) Scheme Order 1992” yn hytrach fod yn gyfeiriad at “Firemen’s Pension Scheme Order 1992”, a wnaed yn uniaith. Fel yr eglurwyd, gwnaed Gorchymyn Cynllun Digolledu’r Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007 yn uniaith hefyd. Gwnaed Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007 yn ddwyieithog.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â phwyntiau adrodd 1 i 7.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

23 Ionawr 2024